Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Presiding Officer’s office, 4th floor - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 18 Mehefin 2014 |
|
|||
Amser: |
12.15 - 13.00 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: AC(4)2014(7) |
|||||
|
|
|
|||
Yn bresennol: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler AC (Cadeirydd) Peter Black AC Sandy Mewies AC Rhodri Glyn Thomas AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Dave Tosh, Cyfarwyddwr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (Swyddog) Craig Stephenson, Prif Gynghorydd y Llywydd (Swyddog) Gareth Watts (Swyddog) Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Swyddog)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
|
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad y Cadeirydd
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Roedd Angela Burns AC a David Melding AC wedi anfon eu hymddiheuriadau.
1.2 Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.3 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 8 Mai.
2 Adolygiad o Effeithiolrwydd Comisiwn y Cynulliad
Yn unol ag arfer gorau llywodraethu corfforaethol ac egwyddorion llywodraethu Comisiwn y Cynulliad, cafodd adolygiad o effeithiolrwydd y Comisiwn ei gwblhau rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2014. Roedd yn asesu'r cynnydd yn ôl yr argymhellion a wnaed yn yr adolygiad cyntaf, a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2013, ac yn nodi rhai o'r camau gweithredu ar gyfer y dyfodol. Cynhaliwyd yr ymarfer gan Gareth Watts, Pennaeth Archwilio Mewnol y Comisiwn.
Canfu'r adolygiad fod y Comisiwn wedi parhau i wneud cynnydd. Roedd y Comisiynwyr wedi dangos trosolwg effeithiol o brosiectau arwyddocaol fel Dyfodol TGCh a'r prosiect Cyfieithu Peirianyddol. Roedd datblygu adnoddau fel dangosyddion perfformiad allweddol wedi arwain at ffocws strategol gwell, a mwy o atebolrwydd a thryloywder.
Roedd Comisiynwyr unigol wedi dangos meistrolaeth gref ar eu portffolios perthnasol, gan arwain y drafodaeth ar eu meysydd cyfrifoldeb a meithrin cydberthnasau effeithiol gyda'r staff sy'n gweithio yn y meysydd hynny. Fel aelodau o fwrdd llywodraethu, teimla'r Comisiynwyr y gallant edrych ar faterion mewn ffordd gorfforaethol a rhoi eglurhad i'w grwpiau gwleidyddol a'r cyhoedd o'r penderfyniadau a wnaed.
Derbyniodd y Comisiynwyr y cynigion yn y papur, gan gynnwys datblygu cynllun gweithredu ar gyfer rhoi argymhellion yr adroddiad ar waith. Teimlwyd fod yr adolygiad wedi bod yn ymarfer gwerthfawr o ran nodi'r meysydd lle roedd y Comisiwn wedi gweithio'n dda a nodi'r cyfleoedd ar gyfer y 12 mis sydd i ddod. Cynhelir adolygiad pellach y flwyddyn nesaf. Diolchwyd i Gareth Watts am gynnal yr adolygiad.
3 Adroddiad Blynyddol ar Gydymffurfio â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol
Yn unol â Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 mae'n ofynnol i'r Comisiwn lunio Cynllun Ieithoedd Swyddogol. Bob blwyddyn, mae'n rhaid i'r Comisiwn osod adroddiad gerbron y Cynulliad yn nodi sut y mae wedi rhoi'r Cynllun ar waith yn ystod y flwyddyn adrodd. Byddai'r adroddiad ar gyfer 2013-14 yn cael ei osod gerbron y Cynulliad i'w drafod ar 16 Gorffennaf.
Nododd y Comisiynwyr fod cynnydd da wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn a chymeradwywyd y staff am eu cyflawniadau yn y meysydd hyn, gan gynnwys:
- lansio Microsoft Translator;
- datblygu ffyrdd gwahanol o gefnogi'r Aelodau gyda'u gwaith pwyllgor;
- hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i holl staff Comisiwn y Cynulliad;
- y gwaith a wnaed gan gydgysylltwyr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ym mhob maes gwasanaeth; a
- chymorth gwell ar gyfer gwaith achos etholaethol dwyieithog yr Aelodau.
Cytunwyd ar y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod i sicrhau arfer da ymhellach ym mhob rhan o'r sefydliad. Pwysleisiodd y Comisiynwyr bwysigrwydd y Cynllun yn cefnogi'r nod o wneud y Cynulliad yn sefydliad dwyieithog ac arwain y ffordd o ran datblygu gwasanaethau dwyieithog. Dylid rhannu arfer gorau pan fo'n bosibl fel y gall eraill ddysgu o brofiad y Cynulliad o gefnogi gweithlu dwyieithog.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Rhoddodd Claire Clancy grynodeb o gyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad a gynhaliwyd ar 9 Mehefin. Trafodwyd y materion a ganlyn:
- Yr adroddiad ar weithgarwch archwilio mewnol, gan gynnwys gwybodaeth am lywodraethu a pharhad busnes;
- Adroddiad a chyfrifon blynyddol y Pwyllgor;
- Risgiau corfforaethol;
- Dull y Comisiwn o ran rheoli rhaglenni.
Byddai Cadeirydd y Pwyllgor yn mynd i gyfarfod y Comisiwn ym mis Gorffennaf i gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor.
5 Unrhyw Fusnes Arall
Adolygodd y Comisiynwyr Bolisi Cadw Cofnodion y Comisiwn a chytunwyd i ymdrin ag amgylchiadau pan fo effaith y cydymffurfiad â'r Polisi yn afresymol ac yn anghymesur.
Yr
Ysgrifenyddiaeth
Mehefin 2014